Warren Gatland
Prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru yw un o’r prif enwau ar Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Mi fydd Warren Gatland, o Seland Newydd, yn derbyn OBE am ei gyfraniad i rygbi.

Yn ogystal â’i waith gyda Chymru bu’n hyfforddi’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig ar eu taith lwyddiannus yn Awstralia’r llynedd.

Bu’n hyfforddi Cymru ers 2007 yn dilyn cyfnodau â thîm cenedlaethol Iwerddon a chlwb y London Wasps.

Record ddisglair

Gyda’r London Wasps enillodd Warren Gatland Uwchgynghrair Lloegr dair blynedd yn olynol o 2002-2005 a Chwpan Heineken yn 2004.

O dan hyfforddiant Gatland, mae Cymru wedi ennill tair pencampwriaeth Chwe Gwlad yn 2007, 2012 a 2013, gan gynnwys Campau Llawn yn 2008 a 2012.

Yn dilyn ei lwyddiant â’r tîm cenedlaethol a’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig, enillodd Gatland wobr Hyfforddwr y Flwyddyn yng ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y BBC y llynedd.

Arwyddodd Gatland cytundeb newydd i barhau fel hyfforddwr Cymru tan ar ôl Cwpan y Byd ym 2019 nôl ym mis Rhagfyr.

Mae Cymru yn herio De Affrica yn y prawf cyntaf yfory yn Durban.