Mae dau berson arall wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad i honiadau o dwyll yng nghwmni bysus Padarn o Lanberis.

Cafodd dyn 53 oed a dynes 62 oed eu harestio gan Heddlu Gogledd Cymru, yn ychwanegol i ddau arall gafodd eu harestio ar ddiwedd mis Mai.

Mae’r pedwar wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Fe wnaeth 84 o bobol golli eu gwaith ar ôl i’r cwmni ddod i ben ar 30 Mai.

Mae tri chwmni bws arall wedi cyhoeddi y bydden nhw’n cymryd drosodd y gwasanaethau – sef Bysiau Arriva Cymru; O R Jones Llanfaethlu, Sir Fôn; a chwmni Gwynfor, hefyd o Sir Fôn.