Fel rhan o lunio’r Cynllun Datblygu Lleol yng Ngwynedd a Môn, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i Gyngor Gwynedd baratoi proffiliau cymunedol a fydd ystyried yr angen am dai, proffil iaith a’r proffil demograffig.
Mae bwriad i ganiatau codi 8,000 o dai newydd yn siroedd Gwynedd a Môn ond mae ymgyrchwyr yn poeni y byddai niferoedd fel hyn o dai newydd yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg.
Gwynedd a Môn oedd yr unig ddwy sir yng Nghymru lle mae’r mwyafrif yn dal i siarad yr iaith, yn ôl cyfrifiad 2011.
Mewn cyfarfod gydag Arweinydd y Cyngor, Dyfed Edwards, a’r Cyng. John Wyn Williams, Deilydd Portffolio Cynllunio ddoe, gofynnodd y gymdeithas i’r cynghorwyr ystyried y “niwed ieithyddol a diwylliannol” byddai’r cynllun yn ei gael.
Gwybodaeth berthnasol
“Rydym yn gofyn i’r Cyngor roi’r Cynllun Datblygu Lleol o’r neilltu hyd nes bydd pob Cyngor cymuned, Cyngor tref neu ddinas wedi derbyn yr holl wybodaeth berthnasol ar ffurf proffil cymunedol,” meddai Ben Gregory, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith.
“Holl ddiben cyflwyno’r proffiliau cymunedol i’r cynghorau cymuned, tref a dinas yw rhoi iddyn nhw wybodaeth gymunedol allweddol a fydd yn hysbysu’r broses o lunio’r Cynllun Datblygu Lleol.
Yn ôl y Gymdeithas, mae’r cyngor wedi addo rhoi ystyriaeth “deg a difrifol i’r gofynion”.
Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am eu hymateb.