Pencadlys Cyngor Ceredigion
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at holl gynghorwyr Ceredigion yn eu hannog i gadw tair ysgol gynradd ar agor.
Bydd tynged ysgolion Llanafan (35 o ddisgyblion), Llanddewi Brefi (30) a Dihewyd (20) yn cael eu trafod yn siambr y cyngor ddydd Mercher.
Nôl ym mis Tachwedd roedd y cyngor eisoes wedi clustnodi rhai ysgolion a allai gau yn y sir, yn sgil ffigyrau oedd yn awgrymu bod 1,000 yn llai o blant yn yr ysgolion yno o’i gymharu â degawd ynghynt.
Yn y cyfarfod ar 18 Mehefin fe fydd dyfodol ysgolion cynradd Llanafan a Dihewyd yn cael eu trafod, yn ogystal â chynlluniau i greu ysgol newydd 3-16 oed yn Nhregaron.
Byddai ysgol newydd o’r fath yn Nhregaron yn debygol o olygu cau Ysgol Llanddewi Brefi, gyda disgyblion yr ysgol honno’n ymuno â disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd Tregaron yn yr ysgol newydd.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae swyddogion y cyngor sir eisoes wedi penderfynu mai dyma’r trywydd maen nhw eisiau ei ddilyn, ac yn galw ar y cynghorwyr i atal hyn rhag digwydd yn y cyfarfod ddydd Mercher.
‘Gwarth’
Byddai penderfynu cau’r ysgolion nawr yn creu trafferth fawr i rieni plant yr ysgolion presennol, yn ôl llefarydd addysg y mudiad, Ffred Ffransis.
“Os byddwch yn penderfynu cau unrhyw un o’r ysgolion, dim ond tair wythnos byddai gan rieni wedyn cyn diwedd y tymor i gael lle mewn ysgol arall i’w plant,” mynnodd Ffred Ffransis.
“Mae’n amlwg mai tacteg y swyddogion yw ceisio argyhoeddi rhieni ymlaen llaw y bydd eu hysgol yn cau, ac felly eu hannog i geisio ysgol arall ymlaen llaw gan wneud ffars o unrhyw ymgynghori neu gyfnod statudol ar gyfer gwrthwynebiadau.
“Mae’n warthus fod trin rhieni, llywodraethwyr a chymunedau yn y fath fodd a dylech chi ddweud ‘Digon yw Digon’ wrth y swyddogion a’u cyfarwyddo i drafod yn adeiladol gyda’r llywodraethwyr sy’n dal i frwydro dros eu hysgolion.”
Mynnodd Ffred Ffransis hefyd nad oedd y cyngor wedi rhoi digon o ystyriaeth i opsiynau eraill, gan gynnwys creu ffederasiwn neu ysgol aml-safle ar gyfer Llanafan, Llanfihangel a Llanilar.
“Os bydd y Cyngor yn parhau i weithredu fel hyn, bydd dadrithiad llwyr yn ein cymunedau gwledig ar yr union adeg pryd y mae angen eu cryfhau,” ychwanegodd.
Galw am dair blynedd
Rowland Jones yw cynghorydd sir y Democratiaid Rhyddfrydol dros ward Ystwyth yng Ngheredigion, sydd yn cynnwys pentref ac ysgol gynradd Llanafan.
Dywedodd wrth golwg360 ei fod yn llwyr yn erbyn y syniad o gau’r ysgol leol, ac y byddai’n gofyn yn y cyfarfod ar i’r cyngor gadw’r ysgol ar agor am dair blynedd arall er mwyn gwell niferoedd.
“Dw i’n ymladd dros yr ysgol nawr a mofyn ei gadw ar agor,” esboniodd Rowland Jones.
“Mae niferoedd yn mynd i lawr ac mae hynny’n anffodus, ond mi gawson ni’r addewid ar y cychwyn ein bod ni’n cael tair blynedd i gadw’r ysgol ar agor er mwyn codi’r niferoedd hynny.
“Fe fyddai’n cynnig gwelliant yn y cyngor ein bod ni’n cael y tair blynedd [o eleni ymlaen] ond y cynghorwyr fydd yn penderfynu.
“Mae rhai pobl yn benderfynol o’u cau nhw ond dwi ddim yn cyd-fynd â hynny. Dw i’n meddwl y dyle ysgolion bach y wlad gael aros ar agor, er mwyn yr iaith a phopeth arall.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Ceredigion am ymateb i’r sylwadau.