Llun y brotest (Cymdeithas y Cymod)
Mae protest yn erbyn y defnydd o awyrennau di-beilot wedi cael ei chynnal heddiw ym maes awyr Llanbedr ger Harlech.

Aelodau Cymdeithas y Cymod sy’n gwrthwynebu’r defnydd o o drons – neu adar angau – yng Nghymru ac ar draws y byd.

“Torrodd aelodau o Gymdeithas y Cymod i mewn i Faes Awyr Llanbedr ger Harlech gan beintio’r geiriau ‘DIM ADAR ANGAU’ ar y lanfa,” meddai datganiad gan y Gymdeithas.

“Y mae hyn yn rhan o ymgyrch Cymdeithas y Cymod yn erbyn datblygu rhyfela robotig sydd yn creu cymaint o ddychryn a lladd ymhlith pobl gyffredin mewn gwledydd fel Pacistan ac Affganistan.”

Mae cwmni QinetiQ wedi arwyddo cytundeb i ddefnyddio’r maes awyr i gynnal profion ar awyrennau milwrol di-beilot.

Llywodraeth Cymru ydi perchnogion y safle.