Bydd diffoddwyr tân yn streicio am 24 awr heddiw yn dilyn anghydfod gyda’r Llywodraeth dros bensiynau.
Bydd aelodau o Undeb y Brigadau Tân yng Nghymru a Lloegr yn rhoi’r gorau i weithio am 9 o’r gloch y bore ma yn y streic 24 awr gyntaf iddyn nhw ei chynnal yn ystod yr ymgyrch.
Bydd streic arall yn cael ei chynnal ar 22 Mehefin wrth i’r ffrae am newidiadau i bensiynau ac oedran ymddeol barhau.
Mae brigadau tân wedi rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith i ddelio â’r streic ac wedi annog pobl i gymryd gofal ychwanegol o amgylch y cartref.
Cyngor brigadau Cymru
Pwysleisiodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Rod Hammerton o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod gan ddynion tân ddyletswydd i wneud be allan nhw i gadw pobl de Cymru’n ddiogel er gwaetha’r streic.
Ychwanegodd eu bod nhw’n “annog ein cymunedau i fod yn fwy gwyliadwrus na’r arfer wrth iddynt fynd o gwmpas eu busnes.”
Rhybuddiodd Prif Swyddog Tân Gogledd Cymru, Simon Smith, y bydd y gwasanaeth yn cael ei brofi i’r eithaf yn ystod y streic a bod nifer “sylweddol” o ddiffoddwyr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn y streic.
Dywedodd Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Rob Quin, ei fod yn annog pobl i gymryd gofal ychwanegol gan nodi bod diffoddwyr tân wedi ymateb i ddau alwad yn y dyddiau diwethaf oedd yn ganlyniad i ddiffyg gofal yn y gegin.
Meddai Rob Quin: “Mae’r digwyddiadau hyn yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i’r cyhoedd fod yn wyliadwrus a pheidio llaesu dwylo. Mae’n arbennig o bwysig i gofio diffodd unrhyw offer trydanol a diffodd unrhyw ganhwyllau neu sigaréts cyn mynd i’r gwely.”
Penderfynol
Mae ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Brigadau Tân yng Nghymru a Lloegr, Matt Wrack, wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o wrthod trafod y diwygiadau pensiwn dadleuol, gan ychwanegu bod diffoddwyr tân yn benderfynol o barhau â’u hymgyrch.
Mae’r undeb wedi rhybuddio bod diffoddwyr tân yn wynebu toriadau mawr yn eu pensiynau ac y byddan nhw’n gorfod gweithio’n hirach cyn ymddeol.