Banc bwyd
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw’n dangos bod trigolion Cymru’n teimlo effeithiau tlodi’n waeth na rhannau eraill o’r DU.
Mae adroddiad ‘Below The Breadline’, sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Oxfam ar y cyd a Church Action on Poverty a’r Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos bod y defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru’n uchel iawn.
Meddai’r adroddiad bod Ymddiriedolaeth Trussell wedi dosbarthu tridiau o fwyd argyfwng i 79,000 o bobl Cymru, sydd â phoblogaeth o dair miliwn, y llynedd.
Yn yr Alban, sydd â phoblogaeth o dros bum miliwn, fe wnaeth 71,000 o bobl dderbyn pecynnau bwyd argyfwng.
Meddai’r adroddiad bod cyflogau isel a thoriadau i’r system les weddi cyfrannu at nifer y bobl sy’n gorfod cael cymorth. Mae 31% o weithwyr Cymru yn ennill llai na’r cyflog byw ac mae 19% o bobl sydd mewn oedran gweithio yng Nghymru’n hawlio budd-daliadau.
Meddai Kirsty Davies, pennaeth Oxfam Cymru: “Mae Cymru wedi cael ei heffeithio gan doriadau i fudd-daliadau, cyflogau isel a swyddi dros dro sy’n gyrru mwy a mwy o bobl i ddibynnu ar fanciau bwyd.
“Mae’n amser i Lywodraeth y DU fynd i’r afael â’r mater hwn ar frys a llunio cynllun gweithredu i atal y cynnydd mewn tlodi bwyd. “