Bars and Melody, Leondre ar y dde
Y ddeuawd rapio Bars and Melody yw ffefrynnau’r bwcis i ennill ffeinal Britain’s Got Talent heno.

Leondre Davies, 13 o Bort Talbot, a Charlie Lenehan, 15 o Fryste yw Bars and Melody ac mae cwmni betio William Hill wedi eu rhoi nhw’n ffefrynnau 6-5 i ennill y sioe ar ITV, o flaen llanciau’r boyband Collabro.

Yn ôl Rupert Adams o William Hill, “Mae’n ymddangos yn ras dau geffyl rhwng Collabro a Bars and Melody.

“Mae ffeinal BGT yn un o’r nosweithiau teledu byw mwyaf yn y flwyddyn a byddwn ni’n derbyn swm chwe ffigwr ar y noson.”

Un o drigolion Port Talbot – y canwr Paul Potts – oedd enillydd cyfres gyntaf BGT yn 2007.