Fergal Keane - un o'r uchafbwyntiau
Mari Emlyn yw trefnydd Gŵyl Inc 2014 sy’n digwydd yn Galeri Caernarfon ar hyn o bryd – sef pum diwrnod llawn o weithgareddau yn ymwneud mewn rhyw ffordd neu’i gilydd â byd newyddiadura, y wasg a’r byd cyhoeddi. Dyma hi’n edrych ymlaen at benwythnos ola’r ŵyl …
Trefnwyd INC yn wreiddiol am fy mod i’n chwilio am ddigwyddiadau celfyddydol/diwylliannol fyddai’n rhoi hwb ac yn dathlu tref arbennig Caernarfon. Mae yna fwy i Gaernarfon na’r castell!
Mae gan Gaernarfon hanes cyfoethog a lliwgar ym maes cyhoeddi a’r wasg. Roedd Caernarfon, ar adeg pan oedd cyhoeddiadau, cylchgronau a chyfnodolion Cymraeg yn eu bri drwy Gymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, yn cael ei chyfri’n Brifddinas yr INC.
Ymgais ydi digwyddiadau INC yn Galeri i godi ymwybyddiaeth pobol Caernarfon a thu hwnt o’r hanes cyfoethog hwn a hynny gobeithio yn rhoi ymdeimlad o falchder i drigolion y dref tra’n rhoi hwb i’r diwydiant heddiw.
Mae Galeri’n lle addas i gynnal digwyddiadau INC gan ein bod yn neilltuo’r adeilad i gyd ar gyfer y penwythnos hwn fel y gallwn gael mwy nag un digwyddiad mewn gofod sy’n addas. Mae’r prif ddigwyddiadau yn y theatr tra mae’r digwyddiadau ymylol yn un o’r ddwy stiwdio.
Uchafbwynt – Tudur Owen a’r niws
Mae’n anodd dewis un digwyddiad yn uchafbwynt gan bod yna apêl wahanol i bob un. Yn bersonol, dw i’n edrych ymlaen at y prif ddigwyddiad ar y nos Sadwrn yn y theatr sef ‘And now for the news where you are…’ efo Tudur Owen ac eraill!
Mae’r newyddion a newyddiaduraeth yn gyffredinol yn gallu bod yn bwnc go drwm a dyrys. Mae’n dda cael cyfle i chwerthin a does dim amheuaeth y bydd y gynulleidfa’n gwneud hynny yn ystod y digwyddiad yma. Does wybod sut gwestiynau gaiff eu gosod gan sgriptiwr y digwyddiad sef Huw Vaughan Roberts na chwaith pa fath o atebion a ddaw gan y panelwyr druain.
Mae’r cwis/sioe wedi ei seilio’n fras (yn fras iawn!) ar thema newyddiadurol. Os ydach chi isio orig o chwerthin ar gychwyn eich nos Sadwrn, yna mi faswn i’n eich hannog i ddod i hwn.
Dw i’n trio sefydlu patrwm o gloi INC yn flynyddol gyda digwyddiad sy’n edrych yn ehangach na’r wasg Gymraeg yn unig. Hanfod INC ydi’r digwyddiadau Cymraeg a Chymreig, ond mae yna gyfle gyda phwnc mor eang a hwn i edrych ar newyddiadura drwy’r byd i gyd.
Wynebu ein straeon
Dw i’n aelod o Glwb darllen yn Y Felinheli. Un o’r cyfrolau a ddarllenwyd flwyddyn ddwythaf oedd cofiant dirdynnol y newyddiadurwr profiadol Fergal Keane, All of These People. Mae gennon ni sysytem marcio llyfrau yn y Clwb darllen ac fe gafodd y gyfrol hon farciau uchel iawn. Mae Fergal Keane wedi cytuno i gloi INC eleni.
‘Facing the Past’ yw teitl y digwyddiad a hyn yn cyfeirio at gred Keane bod wynebu trawma’r gorffennol yn allweddol i ddyfodol gwell. Defnyddia Keane y profiad Gwyddelig fel sail i archwiliad dyfnach i sut mae gwledydd sydd a hanes o drais dwys yn delio efo’u gorffennol. Mae Fergal Keane yn credu ei bod hi’n bwysig i ni gydnabod ein straeon, beth yw’r stori honno, a sut y gall y straeon hynny ein helpu i ddelio efo’n gorffennol. Ella bod lle i ni Gymry ystyried gwerth ein straeon ninnau.
Daw hyn â ni yn ôl at hanfod INC sef edrych ar stori newyddiadura a’r wasg yng Nghaernarfon a chydnabod a dathlu bod gennon ninnau stori gwerth ei hadrodd.”
Penwythnos yr Inc 2014
Sadwrn, Mehefin 7
Syrjyri Digidol gyda Gwenan Griffith o Congl Meinciau – 10am
Sgriblo gyda Karen Owen i blant 7 i 11 oed – 11am
Papurau Bro – 12pm
Cerddorfa’r Teipiaduron – 12.30pm
Sesiwn ar yr ymgyrch ‘Newsnight Cymru’ o dan ofal Mabon ap Gwynfor – 2pm
Clwb Celf Papur Newydd – 2pm
‘Blasu Inc’ gyda Manon Steffan am 3.15pm
Noson ‘And now for the news where you are’ gyda Tudur Owen a’i ffrindiau, a cherddoriaeth gan Geraint Lovgreen – 7.30pm
Sul, Mehefin 8
Sesiwn ffotograffiaeth gydag Iolo Penri – 10am
Drysau agored Archifdy Gwynedd – 10am
Brenin Prifddinas yr Inc – darlith gan Bethan Jones Parry ar y newyddiadurwr E Morgan Humphreys – 3.30pm
Tyd am Dro Co Inc! – taith gerdded gydag Emrys Llewelyn – 3.45pm
Fergal Keane: Facing the Past – noson yng nghwmni Gohebydd Arbennig BBC News – 7.30pm