Chris Coleman - 'profiad i wyleiddio'
Mae plant ysgol o’r Iseldiroedd wedi bod yn cwrdd ag aelodau o garfan bêl-droed Cymru i goffáu milwyr o Gymru a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd.
Collodd 146 o filwyr o Gymru eu bywydau yn ystod brwydr s-Hertogenbosch yn 1944 wrth geisio rhyddhau’r ddinas.
Derbyniodd y plant blac arbennig gan reolwr Cymru, Chris Coleman, y capten Joe Allen a’r chwaraewyr Chris Gunter a Joe Ledley.
Bydd Cymru’n herio’r Iseldiroedd ar y cae pêl-droed heno cyn i’r Iseldiroedd adael am Gwpan y Byd ym Mrasil.
Bydd 146 o blant ysgol yn cael gwahoddiad i fynd i’r gêm yn Amsterdam.
Sylwadau Chris Coleman
“Rwy’n sicr y bydd hwn yn brofiad i wyleiddio pawb. Rydyn ni’n ei chael yn fraint ac yn anrhydedd cael bod yn rhan o’r coffáu,” meddai Chris Coleman.
“Fel tîm a Chymdeithas, rydyn ni yno i chwarae neu fwynhau gêm bêl-droed. Mae’n anodd dychmygu dioddefaint y milwyr Cymreig a miliynau o bobol eraill yn ystod yr Ail Ryfel Byd.”