Leon Britton
Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Leon Britton wedi ymestyn ei gytundeb am flwyddyn arall i aros yn y Liberty tan 2017.
Ac mae’r rheolwr, Garry Monk, yn dweud ei fod yn hyderus hefyd y bydd yr amddiffynnwr a’r capten, Ashley Williams, yn aros.
Mae Leon Britton, sy’n 31 oed wedi cynrychioli’r Elyrch 467 o weithiau, ac mae e wedi dweud ei fod yn anelu at chwarae mewn 500 o gêmau i’r clwb – nod y gallai ei gyrraedd y tymor nesaf.
Ymunodd ag Abertawe yn 2002, sy’n golygu ei fod wedi chwarae gyda’r clwb ym mhob uyn o bedair adran Cynghrair Lloegr.
‘Wrth fy modd’
“Dw i wrth fy modd yn cael aros yn y clwb am flwyddyn ychwanegol ar ben fy nghytundeb presennol,” meddai.
“Byddai ymddangos 500 o weithiau ym mhob un o’r cystadlaethau’n gamp wych i fi a dyna fy nod bersonol nesa’. Ond y peth pwysig yw ’mod i’n helpu’r clwb i aros yn yr Uwch Gynghrair.”
Fe fyddai cadw Ashley Williams hefyd yn hwb mawr i Abertawe ar ôl sïon y byddai clybia mwy yn hoffi ei arwyddo.