Geraint Thomas
Bydd rhai o feicwyr a rasys enwocaf y byd seiclo’n cael eu darlledu’n fyw ar S4C yr haf hwn ar ôl i’r sianel gyhoeddi eu bod wedi sicrhau hawliau darlledu ar gyfer y Tour de France a’r Clasuron.

S4C fydd yr unig sianel ddaearol ym Mhrydain i ddangos y rasys am ddim, gydag uchafbwyntiau rhai o rasys y Clasuron ym mis Mehefin ac yna darllediadau byw o’r Tour de France ym mis Gorffennaf.

Mae’n golygu y gall gwylwyr Cymru gael cyfle i weld Geraint Thomas a Luke Rowe, dau o’r Cymry fydd yn gobeithio helpu Chris Froome i ennill y Tour am yr ail flwyddyn yn olynol i dîm Sky.

Rhodri Gomer Davies sy’n cyflwyno a sylwebaeth gan Wyn Gruffydd, gan roi sylw arbennig i’r diddordeb Cymreig, gyda’r seiclwr Geraint Thomas ymhlith y ceffylau blaen yn ras Paris i Roubaix, y cyntaf dan sylw yn y rhaglen Seiclo ar 5 Mehefin.

Yn dilyn hynny, bob nos Iau, bydd sylw i rasys La Flèche Wallonne (12 Mehefin), Liege i Bastogne (19 Mehefin), a’r Criterium du Dauphine (26 Mehefin).

Yna, gan ddechrau ar 5 Gorffennaf, fe fydd S4C yn ymuno â’r beicwyr ar y lôn yn fyw ar gyfer dwy awr olaf pob cymal y Tour de France.

Wyn Gruffydd fydd yn darparu’r sylwebaeth fyw, gyda Rhodri Gomer Davies wedyn yn cyflwyno rhaglen uchafbwyntiau cynhwysfawr bob noson.

Cefnogaeth Syr Dave

Eleni mae’r Tour de France yn dechrau yn Swydd Efrog, gyda thri chymal Prydeinig, cyn ymlwybro ar hyd ffyrdd cyfarwydd Ffrainc a gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis dair wythnos yn ddiweddarach ar 27 Gorffennaf.

“Mae’n newyddion gwych bod S4C yn mynd i ddangos y Tour De France,” meddai Dave Brailsford, y gŵr o Ddeiniolen sydd wedi arwain Bradley Wiggins a Froome i fuddugoliaeth yn y Tour de France fel arweinydd tîm Sky.

“Dwi’n credu y galla’ i dystio, fel pennaeth tîm Sky sydd wedi ennill y ras ddwywaith, fod y Tour de France yn ddigwyddiad rhyngwladol, ac yn o’r digwyddiadau rhyngwladol blynyddol mwyaf ym myd chwaraeon.

“Ac felly, mae gweld y ras ar S4C yn beth gwych a dwi’n gobeithio y bydd yn dod a chynulleidfa newydd o Gymru ac yn annog mwy o Gymry i gymryd rhan yn y gamp.”

Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Ffeithiol a Chwaraeon S4C, fod seiclo yn gamp “sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd yn aruthrol yn y blynyddoedd diweddar”, ac y byddai diddordeb y tu hwnt i gylchoedd seiclo mewn gwylio’r Tour de France.

Y Clasuron

Paris i Roubaix, nos Iau 5 Mehefin 10.00

La Flèche Wallonne, nos Iau 12 Mehefin 10.00

Liege i Bastogne, nos Iau 19 Mehefin 10.00

Criterium du Dauphine, nos Iau 12 Mehefin 10.00

Le Tour de France

5–27 Gorffennaf

Yn fyw ar S4C yn y prynhawn ac uchafbwyntiau gyda’r nos