Tom Jones
Fe fydd Tom Jones yn derbyn gwobr O2 Silver Clef am ei gyfraniad oes i gerddoriaeth.

Ar ôl bod yn y busnes am hanner canrif a llwyddo i gael 36 o ganeuon yn 40 uchaf y siartiau cerddorol, fe fydd y canwr o Drefforest yn derbyn y wobr mewn seremoni wobrwyo yng ngwesty’r Hilton yn Llundain ymhen mis.

Bydd Laura Mvula a’r ddeuawd Chas & Dave hefyd yn derbyn gwobrau.

“Mae’n fraint cael derbyn gwobr Cyfraniad Oes, ac mae cael fy nghynnwys ymysg yr artistiaid eraill yn bleser,” meddai Tom Jones, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 74 oed ddydd Sadwrn.

Dywedodd Emma Banks, Cadeirydd pwyllgor yr O2 Silver Clef:

“Llongyfarchiadau i Syr Tom Jones, Laura Mvula a Chas & Dave. Un rheswm pam fod y noson wobrwyo yma mor arbennig yw oherwydd yr ystod eang o dalent sy’n cael ei gynrychioli. Dyma’r gorau o gerddoriaeth Prydain.”