Yr hunlun buddugol gan Sara Watkins
Ar ôl trafodaeth ddwys yn swyddfa golwg360 rydym ni wedi dewis enillydd hunlun gorau Eisteddfod yr Urdd eleni – a llun Sara Watkins o griw Ysgol Preseli sy’n mynd â hi!

Fe fu llwyth ohonoch chi’n trydar eich hunluniau o’r maes yn ystod wythnos yr ŵyl yn y Bala, ar ôl i ni gyhoeddi y byddai gwobr o £25 am yr hunlun gorau.

Ddoe fe ddewision ni ein 25 hunlun gorau o’r wythnos a ddefnyddiodd ein hasnod, #hunlunsteddfod, ac fe allwch bori drwyddyn nhw yma.

A dyma oedd y llun buddugol, gan Sara Watkins o Ysgol Preseli, o gôr yr ysgol ar ôl iddyn nhw ddod yn ail ddydd Gwener yng nghystadleuaeth y Côr SATB Blwyddyn 13 ac Iau.

Yn ail oedd ymdrech Cerith Morgan, isod:

Ac yn drydydd fe ddewision ni’r hunlun yma a drydarodd Seren Hâf Jones:

Croeso i chi barhau i drydar eich lluniau a hunluniau difyr aton ni ar @golwg360 – ond allwn ni ddim addo £25 am bob un!