Hunlun criw golwg360
Bu’n wythnos brysur iawn yn y Bala’r wythnos diwethaf wrth i Eisteddfod yr Urdd ymweld â’r dref, gyda llond y maes bobl yn cystadlu, perfformio, cerdded o gwmpas y stondinau – a hunlunio.

Er gwaethaf y glaw am rai cyfnodau yn ystod yr wythnos fe heidiodd dros 85,000 o ymwelwyr i’r maes yn ystod y chwe diwrnod.

Ac fe fuoch chi’n trydar eich hunluniau gorau i ni drwy gydol yr wythnos honno ar Twitter, gan ddefnyddio’r hashnod #hunlunsteddfod.

Bydd golwg360 yn cyhoeddi fory pwy sydd wedi ennill y wobr o £25 am yr hunlun gorau o Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014.

Ond yn y cyfamser, croeso i chi bori drwy’n detholiad ni o’r 25 gorau (ac un dim cystal gan griw golwg360!), a dewis eich ffefryn chi!