Gruff Rhys
Mae Gruff Rhys wedi ychwanegu pum dyddiad newydd i’w daith o amgylch Prydain i hybu ei bedwerydd albwm unigol.

Fe fydd y daith yn cychwyn ym mis Gorffennaf, ac mae cyn-ganwr y Super Furry Animals heddiw wedi cyhoeddi dyddiadau ychwanegol yn Glasgow, Bryste, Birmingham, Portsmouth a Brighton.

Yng Nghymru bydd cyfle i’w weld yng Ngŵyl Lenyddiaeth Dinefwr, Sir Gar; Gŵyl Frinj Llangollen, a Gŵyl Gwydir, Llanrwst.

Y daith

Mae’r daith wedi ei threfnu er mwyn hybu albwm newydd Gruff Rhys, American Interior, sydd wedi ei ysbrydoli gan daith i America, ble bu o’n olrhain hanes un o’i gyndeidiau, John Evans.

Ym mhob gig, bydd yn perfformio caneuon newydd o’r albwm yn ogystal â hen ganeuon.

Bydd Gruff Rhys hefyd yn teithio America ym mis Tachwedd.

Gellir dod o hyd i fanylion am y daith yn: http://www.gruffrhys.com/