Bryn Terfel, sefydlodd yr ysgoloriaeth yn 1999
Mae’r Urdd wedi cyhoeddi enwau’r chwe chystadleuydd o dan 25 oed fydd yn ymgeisio ar gyfer Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2014.

Eleni am y tro cyntaf, nid enillwyr naw o gystadlaethau i’r oedran hŷn o reidrwydd oedd yn cael eu dewis i gystadlu am yr ysgoloriaeth yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 12 o Hydref.

Ar ddiwedd diwrnod ola’r cystadlu yn Eisteddfod Meirionnydd, rhain yn ôl y beirniaid Eirian Owen, Cefin Roberts, Bethan Bryn a Eirlys Britten oedd y cystadleuwyr “mwyaf addawol”:

· Anne Denholm, Aelod Unigol, Caerfyrddin, Gorllewin Myrddin

· Gwyn Owen, Aelwyd Llundain, Rhanbarth tu allan i Gymru

· Heulen Cynfal, Aelwyd Penllyn, Penllyn, Meirionnydd

· Enlli Parry, Ysgol Gyfun Plasmawr, Gorllewin Caerdydd, Caerdydd a’r Fro

· Aron Lewis, Aelod Unigol, Cylch Dewi, Penfro

· Telaid Alaw, Aelwyd Penllyn, Penllyn, Meirionnydd

Yn ogystal â’r clod bydd yr enillydd hefyd yn cael gwobr ariannol o £4,000 i’w ddefnyddio er mwyn datblygu’r dalent i’r dyfodol.

Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu yn 1999 er mwyn meithrin talent rhai o berfformwyr ifanc gorau  Cymru.

Yn ôl Cefin Roberts “Roedd y safon yn uchel tu hwnt eleni ac mae gennym chwe unigolyn hynod dalentog yn cystadlu am yr Ysgoloriaeth yn 2014. Rydym fel panel yn edrych ymlaen at glywed mwy ganddynt ac rydym yn sicr y cawn noson llawn cyffro a pherfformiadau arbennig yn Aberystwyth fis Hydref. “

“Wythnos wych”

Dywed trefnwyr Eisteddfod Meirionnydd iddyn nhw gael ’wythnos wych’ gyda phopeth wedi mynd yn hwylus yn y Bala.

Daeth 86,294 o ymwelwyr i’r Eisteddfod – 20,203 ohonyn nhw dydd Mawrth.

Mae’r nifer yma 4,500 yn fwy na nifer yr ymwelwyr i’r Eisteddfod llynedd yn Sir Benfro.

Fe fu dros 15,000 yn cystadlu yn ystod yr wythnos, gyda bron i 300 o wirfoddolwyr yn stiwardio.

Wrth i’r Eisteddfod ddirwyn i ben, dywedodd Hedd Pugh, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith:

“Mae hi wedi bod yn wythnos dda iawn yma – mae pawb wedi cynnig croeso twymgalon i ymwelwyr gydol yr wythnos ac mae popeth wedi rhedeg yn esmwyth iawn.

“Ar ddiwedd wythnos fel hyn, y cyfan sydd ar ôl i’w wneud yw diolch yn fawr iawn i bob un o’r sir am ddangos Meirionnydd ar ei gorau i bobl Cymru.”

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal yng Nghaerffili y flwyddyn nesaf.