Daniel Clark, Louis Taylor ac Ashley Iles
Bydd tîm yn cynnwys tri o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth flynyddol hwylio robotiaid, Sailbot, yn San Francisco ddydd Sadwrn.
Ers 2012, mae tîm Sailbot Aber o adran gyfrifiadureg y Brifysgol, wedi bod yn creu ac yn cystadlu mewn cystadlaethau hwylio robotiaid annibynnol.
Y llynedd, yn Ffrainc, daeth y tîm yn drydedd ac ennill y wobr am y Bensaernïaeth Ffynhonnell Agored Orau ym Mhencampwriaethau’r Hwylio Roboteg y Byd.
Mae’r cychod eu hunain yn robotiaid ac yn cael eu rheoli gan y system GPS ddiweddaraf sy’n eu galluogi i lywio eu hunain o amgylch unrhyw gwrs, yn debyg i system Sat-Nav.
Rhaid i bob tîm adeiladu a rhaglennu cwch hwylio i gystadlu mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau yn erbyn timau eraill.
‘Her’
Eglurodd Daniel Clark, myfyriwr Cyfrifiadureg yn ei ail flwyddyn ac aelod o dîm Aber Sailbot; “Roeddem yn benderfynol o osod her fwy i ni ein hunain ac adeiladu cwch llawer mwy a chyflymach ar gyfer Sailbot 2014 yn San Francisco.”
Mae’r tîm hefyd yn cynnwys Louis Taylor ac Ashley Iles, myfyrwyr sydd hefyd yn eu hail flwyddyn yn Aberystwyth.
Mae eu cwch newydd, Kitty, wedi cael ei ddylunio a’i adeiladu i gystadlu yn yr Unol Daleithiau, a bydd yn cystadlu yn erbyn timau cryf megis Academi Llynges yr Unol Daleithiau, Prifysgol Columbia Brydeinig a Virginia Tech.
“Ni yw’r unig dîm sy’n cystadlu sydd o du allan i Ogledd America,” meddai Louis Taylor sy’n 19 mlwydd oed ac yn fyfyriwr Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg yn Aberystwyth.
“Mae’n mynd i fod yn anodd, ond rydym yn hapus iawn â’r hyn yr ydym wedi ei gynhyrchu ac rydym yn edrych ymlaen at yr her.”