Mae Heddlu De Cymru wedi diswyddo 13 o Swyddogion Cefnogol Cymunedol ac mae un wedi ymddiswyddo yn dilyn honiadau eu bod wedi twyllo mewn arholiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru bod yr 14 swyddog (PCSO’s) bedwar neu bum mis i mewn i’w cyfnod prawf chwe mis pan ddaeth yr honiadau i’r amlwg.
Cafodd eu cyfnod prawf ei ymestyn tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiadau eu bod wedi twyllo yn yr arholiad olaf.
Yn dilyn hynny, roedd 14 yn wynebu gwrandawiadau, ac o ganlyniad cafodd 13 eu diswyddo ac roedd un wedi ymddiswyddo cyn bod gwrandawiad.