Jane Hutt
Mae arolwg cenedlaethol blynyddol yn dangos bod mwyafrif helaeth o bobol Cymru’n fodlon ar y Gwasanaeth Iechyd ac ysgolion.

Dywedodd 92% o’r bobol a gafodd eu holi eu bod nhw’n hapus gyda’r gofal a gawson nhw gan eu meddyg teulu yn ystod eu hymweliad diwethaf.

Ar ben hynny, dywedodd 91% eu bod nhw’n fodlon ar y gofal wnaethon nhw ei dderbyn gan yr ysbyty yn ystod eu hymweliad diwethaf.

Roedd bodlonrwydd y Cymry ym maes iechyd yn glir hefyd, gyda 92% yn dweud eu bod nhw’n hapus gydag addysg gynradd eu plentyn.

Ond roedd y ffigwr ychydig yn is – 85% – wrth asesu addysg uwchradd.

Ar y cyfan, dywedodd 57% yn unig eu bod nhw’n fodlon ar y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan eu hawdurdod lleol.

Ond mae’n ymddangos bod y Cymry’n fodlon ar drafnidiaeth gyhoeddus, gyda 79% yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel wrth deithio yn y tywyllwch.

Cafodd mwy na 14,000 o bobol dros 16 oed eu holi, ac fe ddechreuodd yr arolwg blynyddol yn 2012.

Wrth raddio gwasanaethau allan o 10, derbyniodd iechyd 6.2, addysg 6.3, trafnidiaeth 5.9 ar gyfartaledd.

‘Calonogol’

Wrth groesawu cyhoeddi’r arolwg, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt: “Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru’n adnodd pwysig i ni wrth i ni ddatblygu ac asesu ein polisïau i wella’n gwasanaethau cyhoeddus.

“Rydyn ni am sicrhau bod pobol ledled Cymru’n fodlon ar y gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu cynnig.

“Mae’r canlyniadau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw’n galonogol iawn ac yn dangos bod gan bobol yng Nghymru lefelau uchel o fodlonrwydd gyda gwasanaethau cyhoeddus allweddol maen nhw’n cael mynediad iddyn nhw.

“Rwy’n sicr y bydd awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn cael y canlyniadau hyn yn ddefnyddiol wrth iddyn nhw gynllunio’r gwasanaethau y byddan nhw’n eu cynnig yn ystod y flwyddyn i ddod.”