Llun o'r ap
Mae ap sydd wedi ei greu i ddysgu plant am y chwyldro diwydiannol yng Nghymru yn cael ei lansio heddiw.
Syniad Gareth Cavanagh o Ferthyr Tudful, Perchennog a Chyfarwyddwr Creadigol Irontown Interactive, yw’r ap ac yn ôl yr awdur, mae’n llenwi bwlch yn y cwricwlwm cenedlaethol am hanes rôl Cymru yn y chwyldro diwydiannol.
Drwy gêm iPad i blant, bydd yr ap ‘Iron’ – sy’n rhad ac am ddim – yn addysgu plant am effaith y chwyldro ar fywydau pobol. Fe fydd y defnyddiwr yn medru cerdded drwy fferm o’r 19eg ganrif ar gyrion Merthyr Tudful er mwyn cael teimlad o sut roedd pobl yn byw ac yn edrych ar y pryd.
Yn ogystal, mae’n cynnig gemau byr a thasgau sy’n ymwneud â’r cyfnod.
Cafodd yr ap ei datblygu mewn partneriaeth gydag adran gemau newydd CEMAS, o fewn Prifysgol De Cymru a’i ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop.
‘Dyfeisiau addysgiadol’
“Roeddwn yn ymwybodol o dreftadaeth Merthyr o’m dyddiau ysgol ond dw i ddim yn cofio fy mhlant yn sôn eu bod wedi dysgu ryw lawer am Ferthyr tra yn yr ysgol,” meddai Gareth Cavanagh.
“Oherwydd y ffaith nad oedd modd dibynnu ar y cwricwlwm cenedlaethol i ddod a hanes Merthyr yn fyw fe es i ati i feddwl am ffordd i addysgu plant drwy hwyl gêm.
“Rwyf hefyd yn gweithio fel darlithydd mewn dylunio gemau ac rwy’n credu bod angen cydio ym mhŵer iPads fel dyfeisiau addysgiadol, sydd o fewn gafael nifer o bobl ledled y byd.”
Ychwanegodd Khalid Al-Begain, Cyfarwyddwr CEMAS: “Mae’r ap yn arf addysgol arloesol i gyflwyno treftadaeth gyfoethog Merthyr Tudful a Chymru i’r cyhoedd.
“Mae’r ganrif ddiwethaf wedi gweld y dref yn dioddef o ddirywiad economaidd a chymdeithasol ond mae prosiectau arloesol fel hyn nid yn unig yn adlewyrchu gorffennol hynod Merthyr ond hefyd yn fodd i wahodd eraill i ddarganfod a gwerthfawrogi treftadaeth y dref.”