Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Mae cam cyntaf cynllun gwerth £37 miliwn i drawsnewid Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn cael ei agor yn swyddogol gan Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd heddiw.
Bydd y gymuned leol yn gallu cael mynediad i amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys meddygfa, gofal y tu allan i oriau a chymorth ar gamddefnyddio sylweddau, i gyd o dan yr un to yng nghanol y ddinas.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r cynllun ac fe fydd y gwaith adnewyddu hefyd yn cynnwys uwchraddio gwasanaethau iechyd rhyw Caerdydd – sydd ar hyn o bryd yn trin tua 50,000 o bobol bob blwyddyn.
Bydd cam nesaf y cynllun yn canolbwyntio ar ddarparu modelau integredig newydd o ofal yn yr ysbyty, a hynny drwy weithio mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau iechyd, y cyngor a’r trydydd sector.
‘Gwarchod darn o dreftadaeth’
“Agorodd Ysbyty Brenhinol Caerdydd ei ddrysau i bobol Caerdydd yn 1883 a thrwy’r trawsnewidiad hwn sy’n werth miliynau o bunnoedd, bydd yn parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd yng nghanol y ddinas,” meddai Mark Drakeford.
“Rwy’n falch o ddweud ein bod, drwy ein rhaglen buddsoddiadau cyfalaf, wedi gallu cyfrannu £37 miliwn at wella’r safle hardd a hanesyddol hwn.
“Rydym yn buddsoddi yn iechyd y gymuned ac yn gwarchod darn o dreftadaeth Caerdydd ar yr un pryd.”