Maya Angelou Llun: Wicipedia
Mae’r awdur a’r bardd o America, Maya Angelou, wedi marw yn dilyn cyfnod o salwch.

Bu farw yn ei chartref yng Nghaliffornia yn 86 oed.

Roedd Maya Angelou yn fwyaf adnabyddus am ei chofiant ‘I Know Why the Caged Bird Sings’ a ysgrifennwyd yn 1969 – y cyntaf o gyfres o saith cofiant yn canolbwyntio ar ei phlentyndod.

Roedd hi’n un o’r merched Affricanaidd-Americanaidd cyntaf i gyhoeddi llyfr wnaeth werthu’n llwyddiannus ledled y byd.

Roedd hi hefyd yn ddramodydd, cyfarwyddwr, actor, cantores a nofelydd.