Heledd Gwyn Lewis
Heledd Gwyn Lewis o Aelwyd y Waun Ddyfal sydd wedi dod i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd y prynhawn ma.

Pwnc y darn buddugol oedd gêm drosiadol o wyddbwyll sy’n astudio perthynas pobol â’i gilydd.

Dywedodd y beirniad Arwel Gruffydd bod ganddi’r ddawn i “fynd â’r gynulleidfa ar daith emosiynol” gan ddefnyddio “iaith gelfydd”.

Mae Heledd yn frodor o Gaernarfon ac yn astudio am radd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae’n aelod o Aelwyd y Waun Ddyfal.

Wrth draddodi’r feirniadaeth, dywedodd Arwel Gruffydd fod ei “llif feddyliau’n dawnsio’n gywrain”.

Dywedodd ei bod hi’n “un o ddramodwyr mwyaf aeddfed y gystadleuaeth”.

Defnyddia’r dramodydd y gêm wyddbwyll i adrodd hanes ei gŵr yn crogi’i hun, a dywedodd y beirniaid ei bod hi’n “ddewin geiriol” wrth gyfleu ei meddyliau.

Ychwanegodd Arwel Gruffydd fod ei chymeriadu “weithiau’n ysgytwol” ond bod “lle i ffrwyno’r mynegiant” er bod yr “iaith yn arf” ganddi.

Wrth gyfeirio at arddull y darn, dywedodd fod lle i gwestiynu ai drama neu ddarn o ryddiaith a gafodd ei gyflwyno ganddi.

Serch hynny, dywedon nhw yr hoffen nhw weld y darn yn cael ei lwyfannu er bod angen iddi ddatblygu ei chrefft.

Bydd cyfle iddi fynd ar gwrs yn Nhŷ Newydd i hogi’i sgiliau.

Y dramodydd buddugol

Mae Heledd Gwyn Lewis o Gaernarfon yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Graddiodd yn y Gymraeg yn y brifysgol honno hefyd.

Yn y dyfodol, mae’n gobeithio dilyn cwrs Ymarfer Dysgu.

Daeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Ryng-golegol y llynedd.

Y gystadleuaeth

Daeth 11 o ddarnau i law’r beirniad, ac roedd tri ohonyn nhw, ym marn y beirniad, yn deilwng o ennill y fedal.

Yn drydydd roedd Gareth Evans Jones o Ynys Môn ac yn ail roedd Elgan Rhys Jones o Aelwyd CF1 yng Nghaerdydd.

Fe fydd Elgan, gan mor gryf oedd ei ymgais, hefyd yn cael mynd ar gwrs i Dŷ Newydd.