Jeremy Griffiths cyn her heddiw
Bydd un dyn dewr yn mentro i mewn i Lyn Tegid y prynhawn yma fel rhan o’i her i godi arian tuag at Eisteddfod yr Urdd Sir Fflint 2016.
Jeremy Griffiths yw cadeirydd pwyllgor gwaith yr eisteddfod hwnnw mewn dwy flynedd, ond mae eisoes wedi dechrau ar ei ymgais i godi arian tuag at yr achos.
Heddiw fe fydd yn nofio o Wersyll yr Urdd Glan-llyn i dref y Bala, pellter o ryw dair milltir a hanner, ac er gwaethaf y tymheredd isel mae’n edrych ymlaen at yr her.
“Dwi ddim yn meddwl fod cadeirydd pwyllgor gwaith wedi gwneud y fath beth o’r blaen,” meddai Jeremy Griffiths.
“Mae rhyw un ar ddeg gradd (celsiws) ar hyn o bryd sydd yn oer iawn, ond efallai y bydd hynny’n gwneud i mi nofio’n gynt!”
Mae Jeremy Griffiths hefyd yn gobeithio seiclo hyd Cymru a gwneud sialens rhedeg cyn 2016 fel rhan o’r ymdrech i godi arian.
Gall pobl gyfrannu at ei ymgyrch i godi arian tuag at Eisteddfod yr Urdd Sir Fflint 2016 drwy ei dudalen justgiving.