Irfon Williams gyda'i wig ar y diwedd
Cafodd rhai o ymwelwyr maes Eisteddfod yr Urdd sioe go annisgwyl heddiw wrth i’r canwr opera enwog Rhys Meirion eillio pen gŵr o Lanfairpwll ym Môn.
Mae Irfon Williams, sydd yn nyrs seiciatryddol yn Ysbyty Gwynedd, wedi bod yn derbyn triniaeth ar gyfer canser y coluddyn.
Ac fel rhan o’i ymdrechion i godi arian tuag at Uned Alaw’r ysbyty fe gytunodd i adael i’r tenor adnabyddus dorri ei wallt, o flaen torf ar y maes yn y Bala heddiw.
Yr Aelod Cynulliad dros Fôn Rhun ap Iorwerth fu’n sylwebu ar y miri, wrth iddyn nhw gasglu arian er mwyn ceisio cyrraedd y targed o £20,000 drwy elusen Awyr Las.
Dywedodd Irfon Williams wrth golwg360 ei fod eisoes wedi casglu yn agos i £1,500 mewn llai nag wythnos tuag at yr achos.
Er na chollodd ef ei wallt yn ystod ei driniaeth am ganser, fe ddywedodd ei fod eisiau gwneud rhywbeth i gynorthwyo’r rheiny oedd wedi bod yn derbyn triniaeth yr un pryd ag ef, gan gynnwys menywod â chanser y fron.
‘Ysbrydoliaeth’
“Mae gen i ddiddordeb mawr yn y maes iechyd meddwl, ac wedi cyfarfod lot iawn o bobl sydd wedi bod yn derbyn triniaeth,” esboniodd Irfon Williams.
“Mae’n rhywbeth seicolegol ofnadwy i fynd drwyddo, colli gwallt, a ro’n i’n meddwl bod hwn yn ffordd ddylanwadol iawn o godi arian, codi ymwybyddiaeth o’r effaith mae’n ei gael ar bobl.”
Bydd Irfon Williams yn gwisgo wig wahanol bob dydd yr wythnos hon fel rhan o’r ymgyrch, gan annog eraill i wneud hefyd.
Rhys Meirion wrthi'n eillio
“Ro’n i ofn fyswn i’n ei dorri fo!” meddai Rhys Meirion. “Ond dwi’n meddwl fod o’n job reit daclus.
“Mae o’n ysbrydoliaeth bod rhywun â chancr arnyn nhw’n medru troi hwn i fod yn rhywbeth positif.”
Mae’r ymgyrch wedi bod yn defnyddio’r hashnod #teamirfon i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch ar Twitter, ac fe allwch gyfrannu drwy eu tudalen justgiving.