Mae’n ddiwedd ar yr ail ddiwrnod yma ar faes Eisteddfod yr Urdd 2014 yn y Bala, gyda dros 20,000 o bobl wedi heidio i’r maes heddiw er gwaethaf y mwd – bron i 1,000 yn fwy na’r un diwrnod y llynedd.

Ac yn ogystal â hynny, mae gennym ni ail bodlediad i chi yn trafod beth sydd wedi bod yn digwydd ar y maes heddiw.

Yn ymuno ag Owain Schiavone mae Bardd Plant Cymru, Aneirin Karadog, ac aelodau o fand Y Cledrau o ardal Y Bala.

Bu Aneirin Karadog yn cyflwyno Cerdd Fawr Plant Cymru ar lwyfan yr Eisteddfod heddiw, tra bod Y Cledrau’n darparu adloniant ar lwyfan y bandiau amser cinio.

Cafodd y podlediad ei recordio cyn i’r newyddion dorri am farwolaeth Derec Williams.

Gallwch wrando i’r podlediad yma: