Ian Jones, Prif Weithredwr S4C
Mewn araith ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw, mae Prif Weithredwr S4C wedi rhybuddio bod derbyn arian digonol yn hanfodol i ddyfodol y sianel.
Wrth gyflwyno araith am ddarpariaeth S4C dros y degawd a hanner nesaf, fe ddwedodd Ian Jones fod yn rhaid i’r sianel gael ei hariannu’n ddigonol, neu byddai gwasanaethau’n cael eu peryglu.
Pwysleisiodd fod y darlledwr Cymraeg yn llwyddo i ymdopi â’r toriadau sydd wedi eu gwneud i’w gyllideb, ond bod rhaid cynllunio i alluogi’r gwasanaeth i esblygu gyda’r oes dros y degawd a mwy nesaf.
‘Sinderela’
Yn ei araith, dywedodd Ian Jones: “Mae’n rhaid i’r rhai sy’n rheoli’r coffrau dderbyn bod sianel genedlaethol yn haeddu arian digonol.
“Mae’n hen bryd i ni beidio â meddwl am S4C, fel rhyw Sinderela yn y byd darlledu. Nid perthynas dlawd ddylai hon fod, ond trysor cenedlaethol. Ac mae yna bris i’w dalu am hynny.”
Dim sicrwydd ar ôl 2016
Er nad oes gan S4C sicrwydd cyllidebol tu hwnt i Ebrill 2016, mae Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011 yn rhoi dyletswydd statudol ar Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan i sicrhau bod y darlledwr Cymraeg yn cael ei ariannu’n ddigonol.
Yn ei araith, amlinellodd Ian Jones ei gynlluniau ar gyfer dyfodol hirdymor gwasanaethau’r sianel – gan ddweud bod angen sicrhau darpariaeth S4C i’r cenedlaethau newydd o Gymry ifanc.
Dywedodd Ian Jones ei fod am weithio gydag eraill i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n gyfrwng cyfoes wrth i dechnoleg newid arferion y cyhoedd ymhellach.
Dogfen ymgynghorol
Roedd yn gwneud ei sylwadau wrth i’r sianel gyhoeddi dogfen ymgynghorol fydd yn trafod y gwasanaethau y bydd angen eu cynnig yn y dyfodol er mwyn cyd-fynd ag arferion gwylio’r cyhoedd.
Ffocws y ddogfen, S4C: Dyfodol Teledu Cymraeg, fydd sut y gall y sianel ateb gofynion y cenedlaethau nesaf o Gymry ifanc.
Mae’r ddogfen ymgynghorol yn sail i drafodaethau S4C ynglŷn ag ariannu’r sianel tua’r dyfodol. Yn y ddogfen mae penaethiaid y Sianel yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal ffynonellau cyllid presennol S4C – sef tua 90% o’r gyllideb flynyddol o Ffi’r Drwydded, a tua 8% yn uniongyrchol gan Lywodraeth San Steffan (adran DCMS).
Drwy gyflawni’r amcanion hyn, meddai Ian Jones, fe fydd S4C yn cyfrannu at ymdrechion i sicrhau bod y niferoedd o siaradwyr Cymraeg yn cynyddu.
Ffigyrau gwylio yn gamarweiniol
Roedd Ian Jones hefyd yn feirniadol o’r dull cul o fesur llwyddiant y sianel bron yn gyfan gwbl ar ffigyrau gwylio, gan bwysleisio darpariaeth eang S4C o raglenni i blant sydd ddim yn cael eu cynnwys.
A chyda cynnydd o 41% yn nifer y bobl sydd yn gwylio S4C ar-lein drwy wefan Clic, dywedodd Ian Jones fod angen manteisio ar y defnydd cynyddol hwnnw.
Ychwanegodd ei fod yn awyddus i sicrhau fod Cymru, Prydain a’r byd yn parhau i weld cynnyrch S4C mewn ffordd unigryw, yn dilyn llwyddiant rhaglenni fel Y Gwyll.
Arbed £2 filiwn wrth dorri omnibws
Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio y byddai’r £2m sydd yn cael ei arbed o dorri omnibws Pobol y Cwm yn mynd tuag at ddramâu newydd o safon uchel i’r sianel.
Ond pwysleisiodd y byddai angen “arian digonol” a “rhyddid golygyddol a gweithredol” ar gyfer y sianel y tu hwnt i 2017.