Ian Jones
Fe fydd prif weithredwr S4C yn dweud bod yn rhaid sicrhau lle’r Gymraeg ar bob cyfrwng – teledu, ar-lein a llwyfannau newydd – yn ogystal ag ar y stryd ac yn y cartref, er mwyn i’r iaith ffynnu ac er mwyn i ofynion cynulleidfaoedd y dyfodol gael eu gwireddu.

Bydd Ian Jones yn gwneud ei sylwadau mewn araith ar faes Eisteddfod yr Urdd y bore ma.

Mae disgwyl i Ian Jones  ddweud bod datblygiadau technolegol yn newid arferion bywyd yn gyflym, ac yn ychwanegol i’r amserlen deledu draddodiadol, bydd rhaid sicrhau lle’r Gymraeg ar declynnau clyfar a dyfeisiadau’r dyfodol er mwyn i’r Gymraeg gael ei gweld a’i defnyddio.

Bydd yn gwneud ei sylwadau wrth i’r sianel gyhoeddi dogfen ymgynghorol fydd yn trafod y gwasanaethau y bydd angen eu cynnig yn y dyfodol er mwyn cyd-fynd ag arferion gwylio’r cyhoedd.

Datblygiadau technolegol

Yn ôl Ian Jones, mae’r ffordd y bydd y sianel yn delio â datblygiadau technolegol yn allweddol i’r ymdrechion i sicrhau bod yr iaith yn parhau’n iaith bob dydd.

Ffocws y ddogfen, S4C: Dyfodol Teledu Cymraeg, fydd sut y gall y sianel ateb gofynion y cenedlaethau nesaf o Gymry ifanc.

Mae’n cael ei disgrifio fel man cychwyn i’r drafodaeth wrth i gyllideb y sianel gael ei thrafod dros gyfnod adolygiad siarter y BBC.

Cyn y digwyddiad, sydd i’w gynnal am 11:30yb ym Mhafiliwn Annedd Wen ar faes Eisteddfod yr Urdd, fe ddywedodd Ian Jones: “Os edrychwn ni nôl degawd a hanner, i droad y mileniwm, roedd y dechnoleg oedd yn cael ei defnyddio gan y cyhoedd yn gyntefig braidd i gymharu â heddiw.

“Mae pethau wedi symud ymlaen yn gyflym iawn ac mae’n rhaid disgwyl y bydd y dechnoleg yn symud ymlaen eto llawn gymaint yn ystod y degawd a hanner nesaf.

“Ac wrth i arferion byw gael eu newid yn gyflym gan y dechnoleg ry’n ni ei defnyddio i gyfathrebu, i wylio, i ymlacio – mae’n rhaid inni sicrhau bod adnoddau o’r fath ar gael yn y Gymraeg. Fel yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd, fe fydd hi’n bwysig iawn bod S4C ynghanol y bwrlwm yma – yn sicrhau bod modd defnyddio’r Gymraeg o hyd yn yr oes ddigidol hon.

“Dechrau trafodaeth ydw i heddiw wrth inni gyhoeddi dogfen S4C: Dyfodol Teledu Cymraeg. Trafodaeth yw hi am y math o wasanaethau fydd eisiau arnom yn y dyfodol, a sut y gallwn ni, yn ariannol, sicrhau ein bod yn gallu datblygu’r gwasanaethau hynny.”