Rydyn ni’n dod at ddiwedd diwrnod agoriadol o gystadlu brwd, gweithgareddau lu (ac ychydig o fwd!) yma ar faes Eisteddfod yr Urdd 2014 yn y Bala.
Ac yn ogystal â hynny, mae nifer o bynciau trafod wedi codi o gwmpas y maes heddiw, gan gynnwys ymweliad baton Gemau’r Gymanwlad ac argymhellion Gweithgor yr Eisteddfod.
Mae Dylan Iorwerth a’i westeion am y dydd, Morys Gruffudd a Bethan Gwanas, wedi bod yn trafod rhai o’r digwyddiadau hynny yn y podlediad cyntaf gan golwg360 o faes yr Urdd brynhawn yma.
Ymysg y pynciau mae eu hatgofion cynnar nhw o gystadlu, ymweliad y baton a beth all ddenu mwy o bobl yn eu harddegau i barhau i gystadlu.
Yn ogystal â hynny, mae’r tri’n trafod argymhellion y Gweithgor – gan gynnwys cyflwyno cystadlaethau newydd megis trin gwallt ac adeiladu.
A tybed beth yw barn y gwesteion am yr MBE a dderbyniodd Efa Gruffudd Jones?
Gwrandwch i’r podlediad isod: