Guto Puw (o wefan Prifysgol Bangor)
Doedd neb yn deilwng o ennill y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Y Bala.

Ac mae’r beirniad, Guto Puw o Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor, wedi annog cerddorion ifanc i gystadlu yn y dyfodol.

Dim ond tri oedd wedi cynnig ar gyfer prif wobr gwaith cartre’r dydd ac, er fod y tri wedi cynnig gwaith taclus, cywir a phleserus doedd yr un yn deilwng o’r wobr, meddai Guto Puw, un o gyn enillwyr y wobr.

“Mae yna un cysur – bod safon y gystadleuaeth yn cael ei chynnal,” meddai, wrth atal y Fedal a’r wobr o £400..

Roedd wedi canmol pwylgor yr eisteddfod am ddewis testun da – cerddoriaeth mewn unrhyw gyfrwng wedi ei sbarduno gan waith y cerflunydd o Lanuwchllyn, John Meirion Morris.

Yr ail yn y gystadleuaeth oedd Rhodri Hedd, aelod unigol o’r tu allan i Gymru, a’r trydydd oedd Fleur Snow o Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Llandysul.