Y cadeirio mewn eisteddfod leol (O wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru)
Mae eisteddfodau Cymru wedi ymateb i’r pryder am brinder beirniaid trwy drefnu cynllun cysgodi yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Fe fydd criw o bobol ifanc yn cael cyfle i ddilyn beirniaid profiadol am ddiwrnod yn y Brifwyl yn Llanelli eleni.
“Mae pump neu chwech o bobol eisoes wedi rhoi eu henwau i gymryd rhan,” meddai Megan Jones, Cadeirydd Eisteddfodau Cymru.
Mae’n un o bedwar cynllun newydd i gryfhau’r cysylltiad rhwng y gwyliau bach a’r gwyliau cenedlaethol.
Cwyno
Flwyddyn yn ôl, roedd cwyno wedi bod am safon rhai beirniaid yn eisteddfodau cylch a sir yr Urdd ac mae pryder y gallai prinder fod yn y dyfodol.
“Fe fydd y bobol ifanc yn cael cyfle i weld sut y mae beirniaid newydd yn gwneud eu gwaith,” meddai Megan Jones. “Mae’n siŵr y byddan nhw’n dechrau mewn eisteddfodau bach iawn, ond mae’n rhaid i bawb ddechrau yn rhywle.”
Bas data a chynllun anrhydeddu
Mae’r Gymdeithas a’r ddwy Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn cydweithio ar greu bas data o feirniaid mewn gwahanol feysydd.
Fe fydd cynllun newydd arall yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn anrhydeddu trefnwyr a swyddogion eisteddfodau bach – gyda thystysgrif arbennig yn cael ei rhoi i rhwng dwsin a phymtheg yng Nghyfarfod Blynyddol y Gymdeithas.
“Heb y bobol hyn, fyddai’r Genedlaethol ei hun ddim yn bod,” meddai Megan Jones. “Mae’n arwydd hefyd o’n hawydd ni i weithio’n glosiach gyda’r Eisteddfod Genedlaethol.”
Y pedwerydd datblygiad fydd rhoi cyfle i enillwyr Tlysau Ieuenctid yn yr eisteddfodau bach gael cyfle i gyflwyno’u gwaith yn y Lolfa Lên newydd yn Llanelli a chael llenorion a beirdd profiadol i roi cygnor ac arweiniad.