Nic Parry
Mae cadeirydd Gweithgor Eisteddfod yr Urdd, Nic Parry wedi croesawu penderfyniad yr Urdd i gyflwyno cystadlaethau galwedigaethol y flwyddyn nesaf.
Roedd y gweithgor wedi bod yn casglu barn i weld os oedd rhaglen gystadlu’r Urdd yn debygol o fod yn berthnasol mewn deng mlynedd.
O’r flwyddyn nesaf ymlaen bydd modd i bobol gystadlu mewn pethau fel trin gwallt, gwneud colur a thrwsio ceir yn Eisteddfod yr Urdd
“Fe gawsom ni ymateb difyr iawn gan y bobol sy’n hyfforddi yn y colegau galwedigaethol, yn atgoffa ni bod yna gymaint mwy o Gymry Cymraeg yn mynd i’r colegau rheiny bellach o’u cymharu â’r Prifysgolion” meddai Nic Parry wrth golwg360.
Cytuno â blogiwr Golwg360
Wrth siarad â Golwg360, fe ddywedodd Nic Parry ei fod yn cytuno â barn y blogiwr Daf Prys, y dylid cyflwyno cystadlaethau gemau cyfrifiadurol a digidol i’r rhaglen.
“Mae ei fys o ar y pwls.”
“Dyna oedd yr ail ymateb mwya’ poblogaidd a gawsom ni gan bobol ifanc.”
Gwyliwch y cyfweliad llawn â Nic Parry islaw.