Luned Bedwyr, enillydd y Fedal Gelf
Mae prif wobrau celf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd wedi cael eu hennill gan ddwy ferch o Lŷn.
Mirian Fflur o Nefyn sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Gelf yr Eisteddfod. sy’n cael ei dyfarnu i unigolyn rhwng 18 a 25 oed am y casgliad o waith mwyaf addawol.
Luned Bedwyr, 17 oed o Bwllheli sydd wedi cipio’r Fedal Gelf.
Fe gafodd hi ei hysgogi i greu cyfansoddiad o waith ar y thema ‘teulu’ yn dilyn marwolaeth ei Nain llynedd.
Luned Bedwyr yn trafod ei gwaith buddugol yn y Fedal Gelf:
Mirain
Mae Mirain yn nesáu at ei blwyddyn olaf yng Nghaeredin ac ar ôl iddi gyflwyno’i gwaith arddangosfa ar gyfer ei gradd y flwyddyn nesaf, ei gobaith yw astudio gradd MA mewn pwnc arbenigol.
Un o’i diddordebau mawr yn y maes yw therapi celf a’r ffordd y mae’n helpu amrywiaeth o bobl mewn sefyllfaoedd gwahanol.
Ei gobaith yn y tymor hir yw cyfrannu’n ôl i’w chymuned a’i phobl.
Roedd y beirniaid Cefyn Burgess a Dilys Ellis Jones yn dweud bod aeddfedrwydd mawr i’w weld yng ngwaith Mirain.
“mae hi wedi mynd at wraidd y testun mewn modd aml-gyfrwng ac mae hi’n llwyr deilyngu’r ysgoloriaeth eleni.”
Luned
Y dylanwad mwyaf ar waith Luned yw ei mam, yr artist, Catrin Williams, ac mae’n ddiolchgar bod Mandy Roberts hefyd wedi ei chyflwyno i’w diddordeb ym maes tecstilau.
“Does dim modd dianc rhag celf yn ein cartref ni gan bod mam yn artist a dad yn ddylunydd graffeg. Rydyn ni wedi ein hamgylchynu â gwaith y ddau yn ogystal â gwaith artistiaid eraill sy’n ffrindiau i’r teulu. Dwi’n lwcus iawn o fod wedi cael fy magu yn y maes ac wedi ymweld â nifer o orielau ac arddangosfeydd celf ar hyd fy mywyd.
“Mae’n debyg bod fy arddull yn debyg iawn i arddull mam – arddull argraffiadol, gan ei bod hithau’n creu darluniadau o fywyd gan ddefnyddio inciau, tecstiliau a phasteli.”
Wrth dderbyn y wobr dywedodd: “Mae derbyn y fedal gelf yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bala yn brofiad cynhyrfus. Mae’n fwy arbennig gan bod gen i gysylltiad agos efo’r Bala. Dwi wedi mwynhau treulio amser yn nhŷ taid a nain Crynierth Bach yng Nghefnddwysarn yn ystod fy mhlentyndod. Felly mae’n braf iawn dod yma i ardal adnabyddus i dderbyn y wobr.”