Y Parti Pyjamas ar faes yr Eisteddfod heddiw
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal parti pyjamas ar faes Eisteddfod yr Urdd Meironnydd y prynhawn yma gan alw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i ddeffro a gweithredu dros yr iaith.

Yn ôl y Gymdeithas, mae taer angen gweithredu gan Lywodraeth Cymru yn sgîl canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad.

Mae’r mudiad yn honni bod angen protestio bellach am nad yw llythyru, lobïo a chynnal cyfarfodydd ers dros flwyddyn wedi darbwyllo Llywodraeth Cymru i gyflwyno polisïau newydd yn wyneb yr argyfwng.

Yn ôl y protestwyr, bydd y ‘parti’ ar y maes yn ffordd o ‘ddeffro’ Carwyn Jones o’i ‘drwmgwsg’.

‘Rwdlan’ yn wleidyddol

Roedd yr actor Morgan Hopkins ynghyd â’r awduron Angharad Tomos a Gwion Lynch yn annerch ac yn diddanu mynychwyr y parti ac fe wnaeth Angharad Tomos ddarllen stori newydd sbon ‘Deffra Carwyn!’.

“Am y tro cyntaf, rydw i wedi rhoi ongl wleidyddol i un o storïau Rwdlan. Stori gwbl newydd fydd gen i lle mae Carwyn Cysglyd mor anobeithiol fel bod y Dewin Dwl yn penderfynu gwneud y swydd yn ei le. Yn sydyn, mae dyfodol mwy gobeithiol i’r Gymraeg!’

Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’n hen bryd i’r Prif Weinidog ddeffro i’r argyfwng, a newid ei bolisiau. Rydyn ni’n galw am chwech o newidiadau polisi allweddol fel sicrhau addysg Gymraeg i bawb a threfn gynllunio sy’n llesol i’n cymunedau.

“Gobeithio y daw’n glir i Carwyn Jones fod angen camau pendant i gryfhau’r iaith, yn hytrach na’r ymateb cysglyd a gafwyd hyd yn hyn.”