Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd yn y gynhadledd
Mae Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wedi canmol Cymreictod Cyngor Gwynedd.
Mewn cynhadledd i’r wasg ar faes yr Eisteddfod ger Y Bala, dywedodd Aled Sion: “Wrth baratoi ar gyfer y ‘steddfod, mae pob un cyfarfod a phob un sgwrs gyda chyngor Gwynedd wedi bod yn y Gymraeg.
“Dy’n ni heb allu dweud hynny’n unlle arall” ychwanegodd.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd ei bod yn braf cael croesawu’r Eisteddfod i Wynedd ac i ardal Meirionnydd.
“Wrth gwrs, nid yw ardal Y Bala yn ddieithr i groesawu’r Eisteddfod gan ei fod wedi llwyfannu sawl gŵyl gofiadwy ar hyd y blynyddoedd.
“Rwy’n siŵr y bydd eleni yr un mor llwyddiannus wrth i ni ddod ynghyd i ddathlu doniau ein pobl ifanc a’r diwylliant Cymraeg,” meddai
Mae pobl Meirionnydd wedi bod wrthi yn paratoi a chodi arian ers blynyddoedd bellach ac mae Cadeirydd y Pwyllgor y Pwyllgor Gwaith lleol, Hedd Pugh yn edrych ymlaen at wythnos lwyddianus.
“Wedi dwy flynedd o weithgareddau yn lleol yn codi arian ac ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod, mae’n hyfryd gweld y Maes yn barod i groesawu pawb.
“Mae’r gefnogaeth yn lleol wedi bod yn wych, a hoffwn ddiolch i’r criw o wirfoddolwyr a staff fu’n trefnu ac i’r cyhoedd ym Meirionnydd am eu cyfraniadau hael.
“Y cyfan sydd angen i ni wneud nawr yw croesawu pawb i Feirionnydd, blasu danteithion yr ardal yn ogystal â mwynhau’r holl gystadlu gwych, y perfformiadau a’r digwyddiadau lu!”