Y Fenni - cartre'r Eisteddfod Genedlaethol 2016
Mae cynghorwyr Sir Fynwy wedi cytuno yn unfrydol i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni yn 2016 a hynny am y tro cyntaf ers 1913.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar Gaeau’r Castell ar gyrion y dref.

Yn ôl datganiad gan y Cyngor, bydd cynnal yr Eisteddfod yn Y Fenni yn rhoi cyfle gwych i’r sir arddangos ei harddwch naturiol a’i hetifeddiaeth yn ogystal a rhoi hwb economaidd sylweddol i’r ardal.

“Yr Eisteddfod ydi un o’r gwyliau diwyllianol mwyaf yn y byd a bydd cryn dipyn o sylw yn cael ei roi gan y cyfryngau a’r byd i Sir Fynwy yn ystod yr wythnos o ddigwyddiadau. Ar wahan i Wimbledon, dyma ddarllediad allanol mwyaf y BBC,” medd y datganiad.

Y Cynghorydd Phil Hobson sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yng Nghabinet Cyngor Sir Fynwy.

“Dwi’n hynod falch bod Sir Fynwy am gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016 a dwi wrth fy modd ein bod yn cael cyfle i arddangos amryw nodweddion y sir i’r byd.

“Dwi’n gobeithio y bydd yr Eisteddfodwyr yn mwynhau yr ŵyl, yn cael argraff ffafriol o’n sir ffiniol hyfryd ac yn gwneud y gorau o’r oll sydd gan Sir Fynwy i’w gynnig,” meddai