Bydd trigolion Bala a’r cylch wrthi heddiw yn gorffen y paratoadau munud olaf ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd sy’n cael ei chynnal eleni ar gaeau Stad Rhiwlas ar gyrion y dref.
Bydd yr Eisteddfod yn cychwyn yn swyddogol yfory ond heno bydd y cyngerdd agoriadol yn cael ei gynnal yn y pafiliwn gyda pherfformiadau gan Catrin Finch, Jesop a’r Sgweiri, Eilir Jones, Swnami, Gai Toms ac eraill.
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ydi un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop ac mae’n denu tua 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Bydd dros 15,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu ar y maes er bod dros 40,000 wedi cystadlu yn yr eisteddfodau cylch a sir.
Baton
Yfory hefyd bydd baton Gemau’r Gymanwlad yn cyrraedd y maes.
Bydd y baton, ynghyd â Clyde, sef masgot y Gemau sy’n cael eu cynnal yr haf yma yn Glasgow, Mistar Urdd, y rhedwr Iwan Thomas a’r 18 sy’n cludo’r baton, yn rhan o Seremoni Agoriadol yr Eisteddfod am 1030 yn y Pafiliwn.
“Dyma gyfle i aelodau’r Urdd ddangos eu cefnogaeth i dîm Cymru a fydd yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nglasgow yn ystod yr haf, meddai llefarydd ar ran yr Urdd.
“Yn dilyn y seremoni, bydd y baton yn mynd ar ras gyfnewid o amgylch y Maes gyda’r 19 o gludwyr yn cymryd eu tro i’w gario.
“Bydd y rhedwr 400 metr Iwan Thomas yn dechrau’r ras gyfnewid a ddilynir gan y 18 o unigolion sydd wedi cael eu henwebu i gario’r baton oherwydd eu gwaith gwirfoddoli gyda’r Urdd.”