Karen Owen
Mae’r cyhoeddiad diweddar gan fanc HSBC eu bod yn cau eu cangen ym mhentref Penygroes wedi ysgogi bardd adnabyddus  i sgwennu englyn am yr ar effaith ar drigolion yr ardal.

Mae Karen Owen yn byw ym Mhenygroes ac fe ysgrifennodd yr englyn yn dilyn cyhoeddiad HSBC eu bod yn cau’r unig fanc yn y pentref, am nad oes digon o bobol yn ei ddefnyddio. Daw hyn yn sgîl cau canghennau yn Llangollen, Conwy a Biwmares yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae bron i 200 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar HSBC i gadw cangen Penygroes ar agor gan ddweud y byddai cau yn “ergyd ddifrifol i fusnesau a thrigolion yr ardal”.

Ac mae’r Cynghorydd Aeron Jones o Lais Gwynedd yn galw ar bobol i gau eu cyfrifon gyda’r banc mewn protest.

Protest

Mae bron i 1,800, o bobol yn byw ym Mhenygroes, yn ôl cyfrifiad 2011 – gydag 88% ohonyn nhw’n siarad Cymraeg – ac mae tua 5,000 o bobol yn byw mewn pentrefi cyfagos.

“Mae sawl busnes a chwmni yn y pentref hefyd a dw i’n galw ar bawb i gau eu cyfrifon hefo HSBC,” meddai Aeron Jones.

“Dw i wedi cau fy nghyfrif banc gyda HSBC ac wedi torri pob cysylltiad hefo nhw mewn protest, ac yn galw ar drigolion lleol i wneud yr un peth.

“Mae englyn Karen Owen wedi taro’r hoelen ar ei phen a dw i’n gobeithio gwneith o ysgogi pobol i sgwennu at y banc ac esbonio pam eu bod nhw’n cau eu cyfrif.

“Gobeithio y gwneith rhywun yn rhywle sylwi ac y gwneith o wrthdroi penderfyniad HSBC.”

Mae disgwyl i fanc HSBC Penygroes gau ei ddrysau ar 27 Mehefin.

Yr Englyn

A oes ots, yng ngenau’r sach – yr ha’ hwn

Fod Pen’groes yn dlotach?

Am fod dinas sy’n frasach

Na cheiniogau’r banciau bach.