Efa Gruffudd Jones
Mae Geraint Løvgreen wedi sgwennu cân yn dilyn yr ymateb tanllyd fu i benderfyniad Efa Gruffudd i dderbyn MBE gan y Frenhines y llynedd.

Cân ddychanol yw ‘Efa (wha’eva)’ sy’n trafod yr “ymateb annheg” a gafodd Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru ar ôl derbyn ei anrhydedd.

Mae’r penillion yn cael eu canu o safbwynt Efa Gruffudd Jones – yn amddiffyn ei phenderfyniad i dderbyn yr MBE – ac yna mae’r gytgan yn wfftio’r safbwynt hwnnw.

Meddai Geraint Lovegreen am y gân: “Ymateb i’r holl feirniadaeth annheg mae hi (Efa Gruffudd Jones) wedi ei gael ynglŷn â’r MBE ydyw.”

Ychydig ddyddiau cyn Eisteddfod yr Urdd 2014 yn y Bala, roedd y canwr a’i fand yn canu’r gân am y tro cyntaf yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon neithiwr.

Heno bydd cyfle arall i glywed Geraint Løvgreen yn perfformio’r gân yn nhafarn y Penlan Fawr ym Mhwllheli heno.