Chwarel Cwmorthin
Mae hanes Cwmorthin, a fu unwaith yn gartref i 200 o bobol yn ystod oes y chwareli, wedi ysbrydoli ffilm ddogfen newydd gan gyfarwyddwraig o Lanfrothen.

Penderfynodd Llinos Griffin, sydd eisoes wedi derbyn gwobrau am ei doniau ym myd ffilmiau byrion, olrhain hanes y cwm yn Nhanygrisiau, ger Blaenau Ffestiniog – a hynny drwy sgwrsio gyda’r bobol fu’n byw ac yn gweithio yno.

Ar gyfer y ffilm 40 munud o hyd, bu hi’n gweithio gyda’r grŵp Cofio Cwmorthin wrth iddyn nhw ymdrechu i godi arian er mwyn atgyweirio rhai o’r hen dai chwarel a gwneud y cwm yn fwy agored i ymwelwyr.

Dechreuodd y gwaith llechi yng Nghwmorthin yn 1810 a bu farw 22 o bobol yno rhwng 1875 a 1886. Ar ôl i’r Cwmni Llechi Cymreig Newydd fynd i ddwylo’r gweinyddwyr cafodd y chwarel ei boddi yn 1902, cyn ail agor unwaith eto yn yr 1980au.

Hanesion o galedi

“Mi ges i’n hudo gan Gwmorthin o’r cychwyn cyntaf. Mae hi’n amhosib peidio syrthio mewn cariad efo’r hen le,” meddai Llinos Griffin.

“Mi drodd ffilm a oedd fod yn 10 munud o hyd yn ffilm 40 munud, ac mi ydw i wedi bod yn hynod o lwcus i ddod o hyd i bobol leol gydag atgofion melys iawn o’u plentyndod yn y 1940au a oedd yn fodlon rhannu eu straeon efo fi.

“Maen nhw’n adrodd hanesion caledi oes y chwareli, ond hynny efo’r hiwmor chwarel hwnnw sydd yn hollol unigryw i gymunedau o’r fath.”

Mae’r grŵp Cofio Cwmorthin Remembered yn gobeithio y bydd y ffilm o gymorth i gyfleu’r neges ei fod yn hollbwysig cadw ysbryd y cwm yn fyw.

Gallwch wylio ffilm Cofio Cwmorthin yma: