Mae Maes B wedi cyhoeddi’r artistiaid fydd yn perfformio yng ngŵyl gerddorol fwyaf Cymru yn Llanelli eleni.
Ymysg yr uchafbwyntiau fydd Yws Gwynedd – band newydd cyn-ganwr Frizbee -, Swnami, Yr Eira, Cowbois Rhos Botwnnog ac enillwyr Brwydr y Bandiau ar raglen C2, Y Trwbz.
Bydd yr ŵyl yn rhedeg am bedair noson ac yn ôl y trefnwyr, mae ‘na rywbeth at ddant pawb sy’n mwynhau cerddoriaeth Gymraeg.
Y rhaglen
Nos Fercher: Yr Ods, Sen Segur, Colorama, Gwenno, Y Reu, Mellt a Gramcon
Nos Iau: Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, R Seiliog, Y Ffug, I Fight Lions, Breichiau Hir a DJs Nyth
Nos Wener: Y Bandana, Al Lewis Band, Yr Eira, Y Cledrau, Castro, Trwbz a DJ Huw Stephens
Nos Sadwrn: Sŵnami, Endaf Gremlin, Yws Gwynedd, Bromas, Yr Ayes, DJ Guto Rhun, ac Y Trwbz.
‘Pedair noson ardderchog’
“Rydan ni wedi llwyddo i sicrhau bod gennym ni bedair noson ardderchog,” meddai Trefnydd Maes B, Guto Brychan.
“Mae’r sin Gymraeg yn gryf iawn ar hyn o bryd, ac mae’r nosweithiau ym Maes B yn adlewyrchu hyn ac yn gyfle i bobl fwynhau cerddoriaeth o bob math mewn awyrgylch unigryw.
“Mae mynd i noson ym Maes B yn llawer mwy na mynd i gig arferol. Dyma’r ŵyl gerddoriaeth Gymraeg fwyaf o’i bath, ac yn gyfle i weld bandiau a pherfformwyr gorau Cymru.”
Ymateb
Dyma rai sylwadau gan Gymry ifanc eiddgar ar trydar:
LLAIN Y LLEUAD @CarylBryn o Amlwch:
Cwolyti. Gwych. Arbennig. Sownd. Grêt a phob gair arall. Allai’m disgwyl. #MaesB
Line up Maes B yn class. Fedrai’m disgwl gorffen yr arholiadau ma wan! @C2BBCRadioCymru @maes_b
Line-ups gwych yn Maes B lenni! Edrych mlaen yn fawr! @C2BBCRadioCymru <https://twitter.com/C2BBCRadioCymru> @maes_b <https://twitter.com/maes_b> #CmonMisAwst <https://twitter.com/hashtag/CmonMisAwst?src=hash>
Dj’o hi lawr yn Maes B @eisteddfod yn Llanelli ar y nos sadwrn, gobeithio bod pawb yn barod i ddawnsio fel ffylied @C2BBCRadioCymru #rave