Gareth Bale
Bydd y profiad o fod yn rhan o dîm Real Madrid sydd newydd ennill Cyngrhair y Pencampwyr yn aros efo Gareth Bale “am byth” meddai.

Dywedodd y peldroediwr 24 oed o Gaerdydd ei fod wedi gwireddu breuddwyd wrth i Real Madrid guro Atletico Madrid yn yr Estadio da Luz o 4 -1 ddoe.

Fe sgoriodd Gareth Bale ail gôl Real mewn amser ychwanegol am fod y ddau dîm wedi sgorio gôl yr un ar derfyn yr amser llawn.

Fe aeth Marcelo a Cristiano Ronaldo ati wedyn i sicrhau buddigoliaeth i Real Madrid.

Fe wnaeth Gareth Bale ymuno â Real Madrid o Tottenham llynedd am bris o £85.3m.

“Mi f’aswn i wedi dod yma am ddim er mwyn ennill y pencampwriaethau mawr” meddai wrth y BBC.