Gornest gyfartal a gafwyd yn Grace Road yn gynharach y tymor hwn pan gyfarfu’r ddau dîm fis diwethaf ac mae Morgannwg yn parhau’n ddi-guro yn y Bencampwriaeth yn Stadiwm Swalec hyd yn hyn.
Gorffennodd y gêm yn gyfartal rhwng y ddwy sir yng Nghaerdydd yn 2012 hefyd, ond y Cymru oedd yn fuddugoliaeth y ddau dro cyn hynny.
Dydy Swydd Gaerlŷr ddim wedi ennill gêm dosbarth cyntaf yng Nghaerdydd ers 2001 pan oedd bowlwyr Lloegr, Phil Defreitas a Devon Malcolm ymhlith eu sêr.
Mae’r Cymry wedi enwi Tom Lancefield, Ben Wright a Michael Hogan yn y garfan, ac mae Gareth Rees, Stewart Walters a Ruaidhri Smith yn ildio’u llefydd.
Carfan 12 dyn Morgannwg: T Lancefield, J Rudolph, W Bragg, M Goodwin, B Wright, J Allenby, M Wallace (capten), A Salter, W Owen, D Cosker, T Helm, M Hogan.
Carfan 12 dyn Swydd Gaerlŷr: G Smith, A Robson, N Eckersley, R Sarwan (capten), J Cobb, N O’Brien, R Taylor, J Naik, A Ireland, N Buck, C Shreck, A Wyatt