Mae ymosodwr Caerdydd a Chymru, Craig Bellamy wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o’r byd pêl-droed.
Mewn cyfweliad ecsgliwsif gyda gwefan Wales Online, dywedodd yr ymosodwr 34 oed nad oedd ei gorff yn barod iddo barhau i chwarae.
Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd ei fod yn paratoi ar gyfer y bennod nesaf yn ei yrfa, a allai olygu ei fod yn camu i fyd rheoli.
Roedd adroddiadau ddoe yn ei gysylltu â swydd rheolwr Servette yn Y Swistir, ac mae e wedi dweud ei fod yn awyddus i fod yn rheolwr Cymru yn y dyfodol.
Dechrau gyda Norwich
Dechreuodd ei yrfa gyda chlwb Norwich yn 1997, ac fe ddaeth i ben yng nghrys Caerdydd pan ddisgynnodd tîm y brifddinas i’r Bencampwriaeth.
Ond y tymor cynt, roedd wedi helpu ei glwb cartref i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair am y tro cynta erioed.
Fe fu hefyd yn chwarae i glybiau Coventry, Newcastle, Celtic, Blackburn, Lerpwl, West Ham a Man City, gan ennill 78 o gapiau dros Gymru a sgorio 19 o goliau.
‘Digon yw digon’
Dywedodd wrth Wales Online ei bod yn bryd “sefyll i’r naill ochr a dweud mai digon yw digon”.
“Pan gafodd Caerdydd eu dyrchafu [i’r Uwch Gynghrair], y teimlad o fod wedi cyflawni rhywbeth gyda chlwb fy nhref fy hun oedd yn golygu mwyaf i fi, yn hytrach na chael chwarae am dymor arall yn yr Uwch Gynghrair.”
Ychwanegodd fod rheolwr Caerdydd ar y pryd, Malky Mackay wedi ei annog i barhau fel chwaraewr yn dilyn eu dyrchafiad i’r lefel uchaf ond penderfynodd roi’r gorau iddi yng nghanol y tymor diwethaf, ond aros tan y diwedd i wneud y cyhoeddiad.
Yn ystod ei yrfa, sgoriodd gyfanswm o 135 o goliau mewn 452 o ymddangosiadau i’w amryw glybiau.