Mae Prifysgol Abertawe wedi penderfynu cyflwyno bwyd halal i’w bwydlen, yn ôl papur newydd Undeb y Myfyrwyr.

Dywed y ‘Waterfront’ fod y brifysgol wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu cownter bwyd halal yn dilyn ffrae genedlaethol am labelu bwyd.

Mae rhai yn honni bod archfarchnadoedd a siopau’n gwerthu cig halal gan ei fod yn rhatach, ac mae hynny wedi arwain at alw am nodi ar becynnau pa fath o gig sy’n bresennol yn y cynnyrch.

Ond mae ymgyrchwyr tros hawliau anifeiliaid yn gwrthwynebu’r defnydd o gig halal, gan ddweud y dylid taro’r anifail yn anymwybodol cyn ei ladd.

Ond yn ôl crefydd Islam, dydy’r anifail ddim yn cael ei daro’n anymwybodol cyn ei ladd ac mae gwaed yn cael ei dynnu o wddf yr anifail.

Mae adran arlwyo’r brifysgol wedi cadarnhau bod eu polisïau ar werthu bwyd yn unol â deddfwriaeth genedlaethol.

Dywedodd llefarydd wrth y papur newydd fod pecynnau brechdanau eisoes yn nodi pan fydd cig halal yn cael ei ddefnyddio “at ddibenion bod yn dryloyw”.