Abersoch
Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn cyfarfod yn Nolgellau heddiw i drafod cynlluniau i ail-ddatblygu gwesty yn Abersoch.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys dymchwel Gwesty’r Tŷ Gwyn a gwneud gwaith a fyddai’n cynnwys adeiladu gwesty 42 ystafell wely gyda chyfleuster spa, bwyty/bar ac 18 o fflatiau preswyl.
Mae swyddogion cynllunio’r cyngor wedi argymell gwrthod rhoi caniatâd oherwydd nad oes cyfraniad at dai fforddiadwy lleol yn y cynlluniau.
Ond, mae’r cyngor cymuned leol wedi argymell rhoi sel bendith i’r cais ar yr amod y byddai’r datblygwr yn cyfrannu at gynllun tai fforddiadwy er budd y gymuned.
Mae tua 45% o dai yn Abersoch yn ail gartrefi yn ôl y cyngor.
Mae’r pwyllgor cynllunio yn cyfarfod prynhawn ma.