Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth ynglŷn ag ymosodiad rhyw a ddigwyddodd dros y penwythnos yn ardal Rhosllannerchrugog ger Wrecsam.

Mae’n debyg bod dynes yn ei 20au wedi mynd i gerbyd at ddau ddyn a oedd yn pasio ar Stryd y Farchnad yn Rhos. Honnir bod y ddau wedi ymosod arni.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad rhwng 10yh nos Wener, 16 Mai a 2 y bore ddydd Sadwrn, 17 Mai.

Mae’r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd cerbyd oedd yn edrych yn amheus un ai yn Rhos, ar ffyrdd gwledig cyfagos neu yn rhywle rhwng Rhos a Bangor Is-coed yn ystod yr amser hwn.

Meddai’r Ditectif Arolygydd Jon Jones: “Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â ni.

“Rydym yn awyddus iawn i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld cerbyd yn ymddwyn yn amheus yn ardal Rhos, dynes yn mynd i mewn i gerbyd yn yr ardal neu unrhyw un a welodd gerbyd wedi’i barcio mewn man anghyffredin yn yr ardal.”

Ychwanegodd DI Jones: “Yn yr un modd, rwy’n gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a allai ein cynorthwyo ni â’r ymchwiliad i gysylltu â ni drwy ffonio 101 a dyfynnu cyfeirnod R072918 neu gellir ffonio Taclo’r Taclau  yn ddienw ar 0800 555 111.”