Kizzy Crawford
Mae’r hyrwyddwyr cerddoriaeth Nyth wedi rhyddhau podcast newydd i hyrwyddo Gŵyl Nyth fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Mae’r podcast yn cynnwys caneuon gan y bandiau ac artistiaid fydd yn chwarae yn yr ŵyl ddydd Sul gan gynnwys Llwybr Llaethog, Colorama, Keys Y Ffug, Kizzy Crawford, Carw a Carcharorion.

Yn Porter’s yn y brifddinas fydd yr Ŵyl unwaith eto, gyda’r gerddoriaeth yn para am ddeuddeg awr o 2yp hyd nes 2yb ar ddydd Sul 25 Mai.

Mae tocynnau o flaen llaw ar gael am bris gostyngol o www.sadwrn.com neu o Spillers Records Caerdydd, ac am fwy o wybodaeth ynglŷn â Nyth neu Gŵyl Nyth ewch i’w tudalen Facebook neu Twitter.

Gwrandewch ar y podcast yma: https://soundcloud.com/gwyl-nyth/podcast-gwyl-nyth