Adeilad Robertson yn Llandudno (o wefan y cwmni)
Mi fydd bron i hanner cant o swyddi yn cael eu creu a 242 yn cael eu gwarchod mewn cwmni o ymgynghorwyr olew a nwy yn Llandudno.

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, fod cwmni Robertson yn derbyn £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn symud i adeilad newydd yn Stad Morfa Conwy erbyn diwedd y flwyddyn.

Bydd cyfleusterau labordy yn cael eu symud o’r hen adeiladau, a fydd yn agor drysau “i ehangu yn y dyfodol”, yn ôl Edwina Hart.

Hanes

Mae cwmni Robertson wedi bod yn Llandudno ers y 70au cynnar ac roedd rhai o’r cyfleusterau presennol yn deillio’n ôl i’r adeg honno, meddai un o reolwyr Robertson.

Fe gafodd ei sefydlu gynta’ yn yr 1960au ond y llynedd fe gafodd ei brynu gan gwmni mawr rhyngwladol, CGG o Ffrainc.

Mae hwnnw’n cyflogi tua 10,000 o bobol ar draws y byd ac yn gweithio mewn 70 o wledydd.

‘Cyfraniad economaidd sylweddol’

“Robertson yw’r cyflogwr sector preifat mwyaf yng Nghonwy ac mae’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol,” meddai Edwina Hart.

“Rwy’n falch ein bod yn gweithio gyda’r cwmni i gynnal ei bresenoldeb yn yr ardal a sicrhau ei ddyfodol hir dymor yng Nghymru wrth gefnogi’r gwaith o greu swyddi newydd gyda’r posibilrwydd o ehangu yn y dyfodol hefyd.”

Ychwanegodd Dr Chris Burgess, Rheolwr Gyfarwyddwr Robertson: “Mae ein cyfleusterau presennol yn dyddio’n ôl i’r 1970au ac mae angen eu moderneiddio’n sylweddol. Mae’r labordai arbenigol newydd yn gam cyntaf yn y cyfeiriad hwnnw.”